Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

Y BIBL CYMRAEG PRESENOL.

YN y flwyddyn 1620, yn mhen 32ain o flynyddau ar ol cyhoeddiad Bibl Dr. Morgan, dygodd Dr. Richard Parry, olynydd Morgan yn Esgobaeth Llanelwy, argraphiad diwygiedig o'r Bibl Cymraeg allan. Gwnaeth hyn, oddiar anogaeth ei galon ei hun, wrth weled anghen dirfawr y wlad am Air Duw. Yr oedd erbyn hyn, nid yn unig ddiffyg Biblau yn nheuluoedd y wlad, ond dywed Parry fod y rhan fwyaf o'r eglwysi heb y Bibl, a lle yr ydoedd, ei fod yn dreuliedig ac wedi ei ddarnio, a neb yn meddwl am ddwyn allan argraphiad newydd. Yr oedd argraphiad diwygiedig o'r Bibl Saesneg newydd ei gyhoeddi, dan awdurdod y Brenin, a bu hyn yn foddion i'w gynhyrfu yntau i gael argraphiad diwygiedig o'r un llyfr gwerthfawr i'w gydgenedl, y Cymry. Yr oedd yn glod mawr i feddwl a chalon Esgob Parry iddo ymgymeryd â'r fath orchwyl pwysig oddiar y fath gymhelliadau.

Yr oedd y diwygiadau a wnaed gan Dr. Parry mor bwysig fel y gellid ei alw yn gyf-