Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ieithiad newydd. Argraphwyd ef yn Llundain, gan Norton a Bill, yn y flwyddyn 1620. Anfonwyd copi o hono yn anrheg i'r Brenin Iago, yr hwn sydd i'w weled yn awr mewn cloriau ardderchog yn y British Museum. Bibl mawr unplyg ydyw, mewn llythyren ddu, wedi ei ranu fel y Bibl blaenorol, a chyfeiriadau Bibl y Brenin Iago ar ymyl y dail. Mae y calendar ynddo, a chyflwyniad Lladin i'r brenin, yn yr hwn y mae yr esgob yn nodi yr hyn a'i cymhellodd i ymgymeryd â'r gwaith. Mae hefyd ar ei ddechreu lawer o addurniadau cerfluniol, a ddefnyddid ar y Bibl Saesneg yn gystal a'r un Cymraeg yn y dyddiau hyny.

Efallai y byddai yn dda gan y darllenydd i gael ychydig o siamplau o'r tri chyfieithiad, er mwyn cael cipolwg ar y cyfnewidiad a wnaeth Dr. Morgan ar gyfieithiad Salesbury, a'r cyfnewidiad wnaeth Dr. Parry ar gyfieithiad Dr. Morgan.