Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
SALESBURY. DR MORGAN DR PARRY
Mat.  cciv. 15
Ffieidd-dra y diffaethwch. Ffieidd-dra annhraithiol. Ffieidd-dra anghyfaneddol.
Luc. xix. 4.
Ffigis bren gwyllt. Ffigyswydd gwylltion. Sycamorwydden.
Act iii. 21.
Yr un vydd i'r nev ei dderbyn, yd yr amser yr adverir yr oll bethae, &c. Yr adnewyddir pob peth. Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth.
Act xxvii. 9.
Wedi cerdded llawer amser Yn ol hir amser Ac wedi i dalm o amser fyned heibio.
Rhuf. xii. 3.
Na bo i neb ddyall uwchlaw y dyler dyall (Yr un modd.) Na byddo i neb uchel-synied yn amgen nag y dylid synied.
Rhuf. xiii. 6, 7.
Ys synwyr y cnawt, angeu yw. Canys y mae synwyr y cnawd yn farwolaeth. Syniad y cnawd, marwolaeth yw.
Col. i. 10.
Fal y rotioch yn deilwng gan yr Arglwydd, a'i voddhau ev yn pop dim. Gan ryglyddu bod yn mhob dim. Gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda.
Phil. i. 21.
Canys yr Christ ys ydd un ym bywyth, ac yn angeu yn enilliath. Canys byw i mi (yw) Crist, ac elw yw marw. Canys byw i mi yw Crist, a marw ''sydd'' elw.
2 Pedr. ii. 13.
Brychay yntynt, a thrisclynay Brychau ydynt a tharysclynau. Brychau a meflau ydynt.

Iawn hysbysu fod y dysgedig Dr. John Davies, person Mallwyd, ac awdwr y Gramadeg Cymraeg yn yr iaith Ladinaidd, a'r Geirlyfr, wedi bod yn gymhorth mawr i'r esgob i ddwyn ei Fibl allan. Cyhoeddodd ei Ramadeg yn y flwyddyn 1621, a chyflwynodd