Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef i'r Esgob Parry. Dywed, yn ei Ragymadrodd, ei fod wedi treulio llawer o amser am fwy na deng mlynedd ar ugain, i astudio iaith ei wlad, a bod ganddo ryw law yn nghyfieithiad y ddau argraphiad o'r Bibl iddi. "Byddwn," ychwanegai, "yn arferol o ddychwelyd oddi wrth y gorchwyl ysgafn hwn (fel ei gelwir) efo mwy o awydd, a chydag astudrwydd a diwydrwydd newydd dau-ddyblyg, at y pethau pwysfawr hyny (sef pregethu yr efengyl, a chyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg.)"

Y cyfieithiad hwn, galwer ef yn wreiddiol neu ddiwygiedig, o eiddo Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy, ydyw y Bibl sydd genym ni yn awr, a'r hwn sydd wedi bod gan y Cymry am fwy na dau gant a haner o flynyddoedd. Nid oes dim cyfnewidiadau o bwys wedi eu gwneyd ynddo byth oddiar hyny. Dim ond cyfnewidiadau bychain, megys gosod prif lythyrenau yn lle rhai bychain, newid y dull o sillebu rhai geiriau, a phethau dibwys cyffelyb. Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oll, oedd y cyfieithwyr. Yr oeddent oll yn ysgoleigion o radd uchel, ac mor ddysgedig yn yr Hebraeg a'r Groeg, fel y dywedir nad oes gan un genedl ar y ddaiar well cyfieith-