Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad o'r llyfr Dwyfol nag sydd gan y Cymro. Ystyrir ei iaith hefyd yn safon i'r Gymraeg y dydd heddyw, er ei fod yn ganoedd o flynyddoedd o oedran, fel mae Bibl y Brenin Iago yn ei gysylltiad â'r iaith Seisnig.

PENNOD VII.

YMDRECHION I GYFLENWI CYMRU A BIBLAU.

CYHOEDDWYD argraphiad unplyg o'r Bibl yn Rhydychain yn 1690, ac adnabyddid ef wrth yr enw Bibl Esgob Lloyd, am fod gan Dr. William Lloyd, Esgob Llanelwy, law yn ei ddygiad allan. Yr oedd arolygiad ei argraphwaith dan ofal un Pierce Lewis, boneddwr o Sir Fôn, oedd y pryd hwnw yn Ngholeg yr Iesu. Nid oes gwybodaeth beth oedd y nifer ddanfonwyd allan yn un o'r argraphiadau unplyg o'r Bibl; ond amlwg yw eu bod wedi eu bwriadu yn benaf, os nid yn hollol, at wasanaeth yr eglwysi; ac nid yw yn debyg fod unrhyw argraphiad yn fwy na nifer yr eglwysi, os ydoedd gymaint.

Am agos can' mlynedd ar ol i Brydain dori ei chysylltiad â Phabyddiaeth, bu Cymru heb