Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr un Bibl oddigerth yn ei heglwysi plwyfol, a'i chapeli eglwysig, a'r eglwysi cadeiriol. Nid oedd unrhyw ddarpariad wedi ei wneyd ar gyfer y werin, mwy na phe buasai dim a fynai y bobl â gair yr Arglwydd, o'r hyn lleiaf, dim mwy na myned unwaith yr wythnos i'r eglwys i wrando darllen ryw ychydig o hono. Yr oedd plyg mawr yr argraphiadau blaenorol hefyd yn eu gwneyd yn rhy drwm a chostus i'r bobl yn gyffredin i'w defnyddio. Buasai plyg llai yn fwy manteisiol yn mhob ystyr.

Daeth yr anrhydedd o barotoi y cyflenwad cyntaf o'r Bibl i'r werin Gymreig i ran dau o henuriaid dinas Llundain, y rhai oeddent Gymry, ac yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn lleshâd eu cydgenedl. Dywed Mr. Strype, yn ei" Survey of London," ddarfod i Mr. Rowland Heylin, Henuriad yn Llundain, hanedig o Gymru, yn garedig ac anrhydeddus, ar ei draul ei hun, yn nechreuad teyrnasiad Charles y Cyntaf, ddwyn allan argraphiad llai o faint, a mwy hwylus at wasanaeth y bobl. Argraphiad wyth-plyg ydoedd hwn, a ddygwyd allan yn 1630. Dywed Dr. Llewelyn fod Mr. Strype yn camsynied wrth ddyweyd i Mr. Heylin ei ddwyn allan yn hollol ar ei draul ei hun. Yr oedd Syr Thomas Middelton, brodor o