Gymru, yr hwn oedd hefyd yn ynad, ac yn henuriad yn Llundain, yn gydweithiwr ag ef, ac yn gyfranwr haelionus at yr amcan rhagorol. Dywed rhai fod eraill wedi cynorthwyo yn y gorchwyl hwn, ond na wnaed eu henwau yn hysbys. Beth bynag, i'r ddau foneddwr haelionus hyn, a'u cynorthwywyr, mae Cymru yn ddyledus am y Bibl cyntaf o blyg hylaw, at wasanaeth y werin.
Yn y flwyddyn 1654, daeth ail argraphiad o'r Bibl wyth-plyg hwn, yn cael ei brintio gan Flesher, a'i werthu gan S. Brewster dan lun y "Tri Bibl," yn ymyl St. Paul, yn Llundain. Yr oedd argraphiad 1630 wedi myned yn llwyr, ac argraphiad o'r Testament Newydd, yn ddeuddeg-plyg, a gyhoeddwyd yn 1647. Yn awr, yn mlwyddyn gyntaf Oliver Cromwell, yr oedd agwedd foesol y wlad wedi newid llawer, a galw mawr am argraphiad arall o'r Bibl bychan. Argraphwyd chwe mil o hono; a dyma y tro cyntaf y ceir y nifer a wnaed mewn unrhyw argraphiad yn cael ei nodi. Yr oedd pregethwyr teithiol yn awr yn dechreu tramwy ar hyd Gymru, yn dyfod i wybod agwedd y wlad, a syched y bobl am Air Duw. Dywedir mai i Charles Edwards, awdwr "Hanes y Ffydd," yn nghyd â dau o'r pregethwyr