Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teithiol, Vavasor Powell a Walter Cradoc, yr oedd Cymru yn ddyledus am yr argraphiad hwn o'r Bibl. Bu pregethwyr teithiol yn Nghymru, am flynyddau lawer, yn cael eu galw yn "Gradocs," oddiwrth Walter Cradoc. Nid oes gwybodaeth pwy aeth dan draul yr argraphiad lliosog hwn. Yr oedd y Bibl wedi codi i fri uwch nag erioed yn Mrydain y dyddiau hyn. Yr oedd gwybodaeth Ysgrythyrol wedi dyfod yn bwnc y dydd, a dyfyniadau o'r Ysgrythyrau ar bob achlysur yn beth cyffredin a phoblogaidd. Yr oedd Cymru hefyd yn destyn mwy o sylw nag arfer. Yr oedd yr Amddiffynwr, Cromwell ei hun, o haniad Cymreig. Cynyrchodd yspryd y dyddiau hyny gyfraith er lledaeniad yr Efengyl yn Nghymru, ac nid rhyfedd i'r unrhyw yspryd gynyrchu argraphiad newydd o'r Bibl Cymraeg.

Er lliosoced oedd yr argraphiad a nodwyd uchod, nid hir y bu cyn ei fod wedi ei werthu yn llwyr. Pan wnaed ymchwiliad yn 1674, nid oedd dros ugain copi o hono i'w gael ar werth yn ninas Llundain, na mwy na rhyw ddeg ar ugain trwy holl Gymru. Parodd hyn ddwyn argraphiad arall o wyth mil o gopïau, yn 1678—yr argraphiad lliosocaf o'r Bibl a