wnaed hyd yn hyn. Gwasgarwyd mil o gopïau o hono yn rhad yn mysg tlodion, a gwerthwyd y lleill am y pris isel o bedwar swllt yr un wedi eu rhwymo. Yr oedd hwn yn cynwys yr Apocrypha, Llyfr y Weddi Gyffredin, a'r Salmau Cân: Dygwyd yr Argraphiad hwn allan trwy ymdrechion y Parch. Stephen Hughes, Abertawy, a Mr. Thomas Gouge, Sais, o Lundain, yn cael eu cefnogi gan yr Archesgob Tillotson. Cymro oedd Stephen Hughes, a drowyd allan o Eglwys Meidrim, Sîr Gaerfyrddin, pan ddaeth gweithred yr Unffurfiad mewn grym, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf gweithgar, ac ymroddedig i ddyrchafu ei wlad yn ei oes. Yr oedd Gouge yn Ymneillduwr; ac er mai Sais ydoedd, yr oedd yn un o'r cymwynaswyr penaf a welodd Cymru erioed. Allan o enill o gant a haner o bunau y flwyddyn, rhoddai gant punt at achosion daionus, heb ddefnyddio ond yr haner cant i wasanaethu ei anghenion ei hun. Yr oedd yn gwario y rhan fwyaf o'r arian hyn ar Gymru, mewn sefydlu ysgolion ynddi, a thalu am gyfieithu ac argraphu llyfrau at ei gwasanaeth. Ac yr oedd y gwr da wedi cael cydweithiwr, o'r un feddwl ac o'r un galon, yn Mr. S. Hughes. Bu Gouge farw cyn fod
Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/47
Gwedd