Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y ddarpariaeth hon o Fiblau wedi rhedeg allan; ond cafodd Hughes fyw i weled anghen eto am argraphiad ychwanegol, ac yr oedd wedi darparu pob peth yn barod tuagat hyny, pan fu farw, tua'r flwyddyn 1687; ond nid ymddangosodd yr argraphiad nesaf o'r Bibl wyth-plyg hyd y flwyddyn 1690.

Argraphiad 1690 oedd yr olaf yn y 17eg ganrif. Hwn oedd y pedwerydd argraphiad wyth-plyg o'r Bibl, a'r seithfed argraphiad o gwbl hyd y pryd hwn.

Cyhoeddwyd amryw argraphiadau o'r Bibl yn ystod y 18fed ganrif, nad yw yn perthyn i amcan y llyfr hwn i roddi hanes fanwl am danynt. Eto, nid anmhriodol fyddai rhoddi crybwylliad byr.

Yn y flwyddyn 1718 cyhoeddodd y "Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol," argraphiad wyth-plyg o'r Bibl Cymraeg, printiedig yn Llundain, gan brintwyr y brenin, Ioan Basged, &c. Amcan y Gymdeithas hon ydoedd anfon allan Fiblau a Llyfr y Weddi Gyffredin i ddeiliaid Prydain. Hyd yma, yr oedd pob argraphiad o'r Bibl Cymraeg wedi ei ddwyn allan trwy ymdrechion personol. Y Bibl hwn oedd y cyntaf a argraphwyd gan y Gymdeithas hon yn Gymraeg. Adnabyddir