Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef wrth yr enw, "Bibl Moses Williams," am mai y Parch. Moses Williams, ficer Defynog, Sir Frycheiniog, oedd yn arolygu yr argraphwaith. Yr oedd yn hwn welliadau ar argraphiadau blaenorol. Rhoddodd oes y byd ar ben uchaf y dail; rhoddodd yr Apocrypha, yn nghyd a gweddiau a chanonau yr Eglwys Sefydledig, yn gysylltiedig â'r Bibl. Ac er mwyn cyfarfod â theimladau Ymneillduwyr, bu mor haelfrydig a gadael i nifer o'r argraphiad ddyfod allan heb y Gweddiau Cyffredin, &c. Daeth y rhai hyn allan o flaen y lleill ac y mae y dyddiad arnynt flwyddyn yn gynt, sef 1717.

Dygwyd argraphiad arall allan gan y Gymdeithas a nodwyd, a than arolygiad yr un gŵr, sef y Parch. M. Williams, yn 1727. Yr oedd hwn yn cynwys taflen o arwyddocâd geiriau anghyfiaith; ond yr oedd heb gynwysiad y pennodau, na chyfeiriadau ymyl y dail, ac yr oedd cwyno mawr arno o'r herwydd.

Dygwyd argraphiad arall eto allan yn Nghaergrawnt, printiedig gan Joseph Bentham, printiwr i'r brif-ysgol, yn y flwyddyn 1746. Gelwir hwn yn Fibl Morys, am mai dan arolygiad "Risiart Morys o Fôn" y daeth allan. Cyhoeddwyd hwn eto gan y Gymdeithas er