Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Yr oedd yn ol trefn Bibl Moses Williams, ond fod. amryw bethau wedi eu hychwanegu ato, megys mapiau teithiau Israel yn yr anialwch, a theithiau yr Apostolion, tablau arian, pwysau, a mesurau, &c. Gwnaeth y Gymdeithas gyhoeddi yr argraphiad hwn ar anogaethau taerion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yr Ysgolion Rhad oedd ef wedi sefydlu trwy y wlad yn magu y fath nifer o ddarllenwyr newyddion, a'r darllenwyr hyny yn galw am Fiblau. Dywedai Mr. Jones na wnelai llai na deuddeg mil o Fiblau gyflenwi anghen y rhai oedd wedi, neu ar y pryd yn, dysgu darllen yn ei ysgolion ef. Yr oedd perthynas arbenig rhwng yr argraphiad hwn ag Ysgolion Griffith Jones. Yr oedd dros ddeuddeg cant o bunau wedi eu casglu ar gyfer y draul; ond yr oedd amodau yn nglyn â'r cyfraniadau i'r perwyl:—Fod y personau y mae eu henwau isod wedi cytuno i gyfranu y symiau a roir gyferbyn â'u henwau tuagat argraphu y Bibl Cymraeg a Llyfr Gweddi Gyffredin, i'w lledaenu yn y dull canlynol: Fod iddynt gael eu rhoddi yn ddidâl i'r tlodion teilwng, yn enwedig y rhai hyny a gyrchent at weinidog eu plwyf i adrodd