Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Catechism yr Eglwys o flaen y Gynulleidfa, &c. Yn ail, Fod yr arian a ddaw oddiwrth werthiant y cyfryw Fiblau, i'r rhai ag sydd yn alluog ac yn ewyllysgar i'w prynu hwynt, i gael eu defnyddio i gynal yr Ysgolion Rhad Cymreig, felly i ddysgu y rhifedi mawr iawn y rhai nad ydynt eto yn medru darllen. Yr. oedd yr amodau hyn yn rhwymo y tlodion i fod yn gysylltiedig â'r Eglwys Sefydledig cyn y gallasent gael eu Biblau yn rhad; am hyny gwnaeth rhai Anghydffurfwyr ymdrech mawr i gael nifer o Fiblau yr argraphiad hwn heb fod mewn cysylltiad a'r Eglwys.

Dygwyd argraphiad arall allan o'r Bibl hwn dan olygiad yr un gŵr, sef Risiart Morys, wedi ei argraphu yn Llundain eto, gan y Gymdeithas a nodwyd, yn 1752; ac yr oedd nifer y ddau argraphiad yma yn ddeng mil ar ugain. Y Parch. G. Jones, Llanddowror, fu yn offerynol i gael yr argraphiad hwn hefyd allan.

Cawn argraphiad arall yn cael ei gyhoeddi gan yr un Gymdeithas yn 1769, wedi ei argraphu yn Llundain gan Mark Basket. Cafodd Dr. T. Llewelyn, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o hanes y cyfieithiadau o'r Bibl i'r Gymraeg, gan y Gymdeithas i ar-