graphu rhai miloedd yn fwy na'i bwriad, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr. Yr oedd yr argraphiad hwn yn rhifo oddeutu ugain mil. Mae y Parch. E. Evans (Ieuan Brydydd Hir), yn ei "Rybudd i'r Darllenydd," yn nglŷn â'i "Gasgliad o Bregethau," yn adolygu yr argraphiad hwn, ac yn beio yn llym, amryw gyfnewidiadau a gwallau oeddent yn codi oddiar anghymhwysder y rhai a edrychent ar ei ol, fel golygwyr. Y mae yn terfynu yn y geiriau hyn:
"Ond da i gwnaethent hwy yn y peth hwn, yn fy marn i, ag i bawb a ddelo ar eu hol hwynt, i olygu argraphiad yr Yscrythur Lân, ddilyn argraph neu ddull yscrifenniad y dyscedig a'r parchedig Escob Rissiart Parry, a'r Doctor Davies o Fallwyd, yn argraphiadau y Bibl Cyssegrlân, a ddaethant allan yn y flwyddyn 1620 a 1630; gwŷr a oeddent yn deall iaith eu gwlad yn rhagorol, a chanddynt gariad i'w gwlad a'u hiaith, ag i eneidiau dynion. Nid fel y gormesiaid Seisnigaidd yn ein dyddiau drwg ni, y rhai ni fedrant, ac ni fynant, wneuthur yr hyn a weddai i fugeiliaid ffyddlon. Duw yn ei drugaredd a symudo ymmaith ei farnedigaethau oddiarnom, ag a ganiatao ini gannwyllbren ei Air sanctaidd yn ein