Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eiddo Peter Williams oedd yr esboniad Cymraeg cyntaf ar bob pennod o'r Bibl. Dygwyd dau argraphiad arall o'r Bibl hwn allan yn y ganrif hono, sef un yn 1781, a'r llall yn 1788.

Yr oedd yn ofynol wrth ddewrder a phenderfyniad meddwl digyffelyb i un dyn gychwyn ar y fath lafur i ysgrifenu sylwadau ar bob pennod o'r Bibl, a'r drafferth a'r draul o argraphu y cyfryw lyfr, mewn argraph-wasg Gymreig. Mae ef yn adrodd y cymhelliadau barodd iddo ymaflyd yn yr ymgymeriad pwysig:

"Mae mor anghenrhaid, tebygaf, i'r Cymry wrth agoriadau ar y Bibl ag i'r Saeson. Mae ein hanwybodaeth cymaint a'r eiddynt hwythau, a'n heneidiau yn gwbl mor werthfawr. A phaham na buasai rhywrai yn dodi esboniad byr ar y Bibl, nis gwn i, oddieithr am fod gormod gelyniaeth at rym duwioldeb yn para eto yn ein mysg, a'r un yspryd Pabaidd am gadw y bobl mewn anwybodaeth, fel y gwelir wrth gymaint o halogi y Sabboth y sydd, trwy chwareyddiaeth, dawnsiau, &c., neu wâg ddymuniad eraill i ddiwreiddio a dileu yr iaith Gymraeg yn llwyr o'r byd; neu o eisiau calon i ymosod yn nghylch y fath orchwyl maith a phwysfawr? Yn wir, yr oedd, hyd