Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddiweddar, brinder o Fiblau yn gystal a diffyg esboniadau, Cymraeg; canys er cynifer argraphiadau fu o hono, ac er mor fynych y dosbarthwyd, eto, trwy ryw esgeulusdra neu wall drefn, yr oedd amryw deuluoedd heb un Bibl ganddynt, ïe, rhai a fawr ewyllysient ei gael, yr hyn a gododd ynof ddirfawr hiraeth am weled rhyw wŷr addas i'r gwaith yn ei gymeryd mewn llaw. Eithr wedi dysgwyl dros flynyddau, heb weled dim argoelion, ond yn y gwrthwyneb yn clywed fod llaweroedd, a gwŷr Eglwysig rai, yn chwenych dwyn Biblau Saesneg i'r Cymry yn lle Cymraeg, ni fedrwn ymatal yn hwy, eithr cychwynais i fyned yn nghylch y gwaith. A chan nad oedd nemawr yn credu y dygid y fath orchwyl pwysig i ben, nid oeddynt awyddus i gryfhau fy mreichiau yn y dechreuad; eithr calonau llaweroedd a agorwyd o bryd i bryd pan y'm gwelsant yn trafaelio, a rhoisant eu dwylaw yn garedig i'm cynorthwyo i'w ddwyn i'r byd, fel yr wyf yn rhwymedig, bellach, i ddiolch i Dduw a dynion, am gymhorth cyfamserol nes gorphen yn gysurus.

"Nid yw yr esboniad ond byr ac anmherffaith; pa fodd bynag, ddarllenydd Cristionogol, o ddiffyg gwell, gwna ddefnydd o hwn.