Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid wyf yn cymeryd arnaf ddeongli y cwbl, nac i ganfod eithaf y dirgelwch a gynwysir yn yr Ysgrythyr Lân, er fod genyf ysgwyddau Ilawer o ddysgawdwyr enwog i sefyll arnynt, megys Ostervald, Lightfoot, Ainsworth, Hall, Babington, Trap, Henry, Pool, Hammond, Burkitt, &c. Ond gallaf yn hyf ddyweyd mai cariad at fy nghenedl, y Cymry, a gwir ddymuniad am eu hiachawdwriaeth, a'm cymhellodd i ysgrifenu yr hyn a ysgrifenais; ac y mae yn dda genyf gael cyfle fel hyn i fwrw fy hatling i'r drysorfa, ac i fod o ryw ddefnydd dros yr Efengyl yn fy nydd a'm cenedlaeth."

Cyflawnodd ei orchwyl yn dda. Ac mor bell ag y mae ei esboniad yn myned, y mae yn rhagorol; a gosododd ei genedl dan rwymedigaeth fythol iddo. Fel y canodd ei farwnadydd iddo :

"Os yw Cymru 'n chwe' chan' milldir,
Wedi mesur fel mae 'n awr,
Ac o'i mhewn dri chant o filoedd
O drigolion gwerin fawr,
Gwn pe chwilit ei mhaith gonglau,
Braidd ceit ardal, plwy', na thŷ,
Heb 'u haddurno 'n awr â Biblau,
Ffrwyth dy lafur dirfawr di."

Dygwyd un argraphiad arall o Fibl bychan