allan yn Nhrefeca, yn y flwyddyn 1790, gan y Parchedigion Peter Williams a D. Jones, gyda nodau ysgrythyrol ar ymyl y ddalen. Gelwir hwn yn Fibl John Cann. Dywedir mai gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn Holand oedd y John Cann hwn. Dyma yr oll o'r argraphiadau o'r Bibl a ddygwyd allan hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yr argraphiadau yn y ganrif hon yn rhy am i ni i'w dilyn gyda manylwch, ac mae yr ymdrechion llwyddianus'i gael cyflenwad o Fiblau iselbris, ac esboniadau buddiol, i Gymru wedi bod yn dra rhagorol. Yr oedd sefydliad Cymdeithas y Bibl yn nechreu y ganrif hon, trwy offerynoliaeth un o'r meibion goreu a fagodd Cymru—y Parch. Thomas Charles, Bala,—yn foddion mwy effeithiol na dim o'r blaen, nid yn unig i gyflenwi Cymru â Biblau, ond i gyflenwi anghenion pob gwlad, a rhoddi
"Bibl i bawb o bobl y byd."