Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1752. Y Testament Newydd, gyda'r Salmau; wyth-plyg; dwy fil o gopiau.

1769. Y Bibl mewn wyth-plyg, gan yr un Gymdeithas.— Ugain mil o gopïau.

1770. Y Bibl, mewn pedwar-plyg; gyda sylwadau ar bob pennod, gan Peter Williams. Caerfyrddin. Mae hwn wedi myned trwy nifer mawr o argraphiadau.

1779. Y Testament Newydd.

1789. Y Bibl, mewn unplyg; Llundain. At wasanaeth yr eglwysi; gan y Gymdeithas a nodwyd.

1790. Y Bibl, mewn deuddeg-plyg, gyda chyfeiriadau, John Canne; Trefeca, dan arolygiad y Parch. P. Williams. Cyhoeddwyd argraphiad arall o hono yn Nghaerfyrddin. 1799. Y Bibl, mewn wyth-plyg. Deng mil o gopïau, yn nghyd â dwy fil o'r Testament Newydd ar wahan. Rhydychain, gan yr un Gymdeithas, a than arolygiad Parch. J. Roberts.

1800. Y Testament Newydd, wyth-plyg. Rhydychain.

"Yr Argraphiadau hyn, oddigerth 10,000 o gopïau o'r Testament Newydd mewn gwahanol blygiadau, a argraphwyd yn yr Amwythig, yn y flwyddyn 1800, oedd yr oll a wnaed cyn ffurfiad y Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Gwerthwyd argraphiad 1799 mor fuan ag y cyhoeddwyd ef; ac nid oedd y bedwaredd ran o'r wlad wedi ei diwallu. mai prinder Biblau yn Nghymru arweiniodd i sefydliad y Gymdeithas; felly un o'i gweithredoedd cyntaf, wedi cael ei sefydlu, oedd cais i gyfarfod â'r anghen hwn oedd ar y Cymry am Fibl. Penderfynodd y Gymdeithas, yn 1804,