Gwirwyd y dudalen hon
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0d/Hanes_y_Bibl_Cymraeg_%28page_6_crop%29.jpg/400px-Hanes_y_Bibl_Cymraeg_%28page_6_crop%29.jpg)
RHAGYMADRODD.
DIAMMHEU y bydd yn dda gan y darllenydd Cymreig gael crynodeb byr o hanes y BIBL CYMRAEG, a'r ymdrechion clodfawr a wnaed gan ein tadau i'w gyfieithu, ei argraphu, a'i ledaenu. Yr ydym yn ddyledus am ein hyfforddiant yn hanes y Bibl, a hanes bywyd ei gyfieithwyr a'i ledaenwyr, i amryw awduron , megys "Llyfryddiaeth y Cymry"—"Cymru,"—"Gwyddoniadur" &c.; ond yn benaf am y cyfieithiadau i "Welsh Versions and Editions of the Bible," gan Dr. Thos. Llewelyn, 1768. Buom yn y British Museum yn darllen ac yn cydmaru yr argraphiadau cyntaf o Destament Salesbury, a Biblau Dr. Morgan a Dr. Parry ac eraill; ac yr oedd yn llawen iawn genym gael yno y fath gronfa ragorol o hen lyfrau Cym-