Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

raeg, mewn llawysgrifau yn gystal ag mewn print. Mae yno faes ardderchog yn aros Hanesydd Cymreig i ddyfod i'w chwilio, a chasglu ei ffrwythau.

Yn y gyfrol fechan hon, yr oeddem dan orfod i fod yn fyr. Ond gwnaethom ein goreu i roddi hanes mor gywir ac mor gyflawn ag oedd yn bosibl. Hyderwn y bydd darlleniad y llyfr, a'r olwg a rydd ar ofal Rhagluniaeth ddwyfol am genedl y Cymry, yn darparu dynion cymhwys i drosglwyddo y gyfrol werthfawr—Gair y Bywyd—i'w dwylaw, yn adgoffa i ni ein rhwymedigaethau i'r Arglwydd. Dymunem hefyd iddo gadarnhau ein ffydd yn y Bibl, ac ail enyn ein cariad ato; fel y byddo i werin ein gwlad ei dderbyn fel gair Duw, pwyso ar ei dystiolaethau cedyrn, ac ymdrechu fwyfwy i weithio allan ei egwyddorion gogoneddus mewn bywyd ac ymarweddiad sanctaidd.

ABERTAWY: Mai 1875.