Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Salesbury
ar Wicipedia

I. William Salesbury

MAE esgeulusdra nodedig wedi bod i gadw hanes fanol o fywyd y boneddwr a'r ysgolor enwog hwn. Mae yn hysbys ei fod yn deilliaw o un o hen deuluoedd mwyaf cyfrifol y Dywysogaeth. Ail fab ydoedd i Ffoulk Salesbury, Ysw., Plâs Isaf, Llanrwst, yn Sir Ddinbych. Enw ei daid ydoedd Robert Salesbury, yr hwn ydoedd bedwerydd mab i Thomas Salesbury Hên, o Lleweni, ger Dinbych. Daethai i feddiant o etifeddiaeth y Plâs Isaf trwy briodas â Gwenhwyfar, unig ferch ac etifeddes Rhys ab Einion Fychan, o'r lle hwnw.

Am eu haniad dywed y Parch. Walter Davies, "Y Salsbriaid oeddynt o âch Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r ynys hon, yn y flwyddyn 1066. . . . . Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu ag etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai