Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Turberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau."

Ganed William Salesbury yn gynar yn yr unfed ganrif-ar-bumtheg. Derbyniodd egwyddorion cyntaf ei addysg yn Nghymru. Yna symudodd at brif ffynonell addysg y wlad -Rhydychain, lle yr enwogodd ei hun fel ysgolor. Aeth i Thavies Inn, Llundain, i astudio y gyfraith, a bernir iddo symud oddi yno i Lincoln's Inn. Yr oedd erbyn hyn yn medru naw o ieithoedd gwahanol, heblaw y Gymraeg a'r Saesneg, sef yr Hebraeg, y Galdaeg, y Syriaeg, yr Arabaeg, y Roeg, y Lladin, y Ffrengaeg, yr Eidalaeg, ar Hisbaenaeg. Yr oedd felly, fel ieithydd, wedi curo ei nai fab cyfyrder—yr hybarch Edmund Prys, Mydrydd y Salmau Cân.

Pan basiwyd y gyfraith Seneddol i gyfieithu y Bibl i'r iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1563, ymddengys i'r esgobion oeddynt wedi eu gosod dan gyfrifoldeb y gwaith, droi eu golwg ar unwaith at William Salesbury, ysgolor o'r radd flaenaf, a Phrotestant o'r mwyaf zelog, fel y mwyaf cymhwys i ymgymeryd â'r gorchwyl o gyfieithu yr Ysgrythyrau, ac