Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anogasant ef i ymaflyd yn y gwaith. Yr oedd yn byw y pryd hwn yn Cae Du, yn mhlwyf Llansanan, yn Sir Ddinbych, lle mynyddig, anghysbell, ac allan o'r byd, megys. Yr oedd yr hên ystafell ddiaddurn y bu yn dwyn yn mlaen ei lafur pwysig, yn cael ei dangos hyd ychydig o flynyddau yn ol, ac yr oedd yn neillduol o ddirgel, er mwyn ysgoi llid yr .erlidwyr. Yn ystod teyrnasiad Mari Waedlyd, yr oedd ei zel Brotestanaidd wedi ei wneyd yn wrthrych dygasedd y frenines a'r Pabyddion. Felly gwnaeth ei ystafell mor ddirgel fel nad oedd yr un fynedfa iddi ond trwy dwll o'r simdde. Bu Salesbury yn aros yn Llundain i arolygu argraphiad ei Destament. A'r Testament hwn, wedi ei ddiwygio yn gyntaf gan Dr. Morgan, ac wedi hyny gan Dr. Parry, yw y Testament Newydd Cymraeg a ddarllenir gan y werin heddyw.

Dywedir, yn "Nghofiant Syr John Wynn, o Wydir," fod Salesbury wedi ymgymeryd â'r gorchwyl o gyfieithu yr Hên Destament hefyd i'r Gymraeg, a'i fod wedi cyfaneddu gyda Dr. Richard Davies am oddeutu dwy flynedd i'r amcan hwnw; ei fod wedi myned yn mlaen yn mhell gyda'r gorchwyl, ond yn anffodus i ddadl godi rhyngddynt am ystyr a gwreiddyn