Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gair, yr hwn y mynai yr esgob ei fod fel hyn, ac y mynai Salesbury ei fod fel arall, ac i'r ymryson hwn derfysgu ac atal y gwaith. Dywed hefyd, iddynt, tra fuont gyda'u gilydd, gyfansoddi homiliau, a llyfrau, a nifer mawr o draethodau yn yr iaith Gymraeg. Parodd yr anghydwelediad â'r Esgob, neu rywbeth arall, iddo roddi ei ysgrifell heibio, yr hyn a drodd allan yn golled fawr i'r Cymry, gan ei .fod yn llenor mor enwog, ac yn Hebrewr di-ail.

Ar farwolaeth Robert ei frawd, yr hwn oedd heb un mab, dim ond dwy ferch, daeth yn berchen llawer o feddianau, yn nghyd â Ilys y Plâs Isaf; ond preswyliodd am gryn dymhor wedi hyny yn Cae Du.

Cyhoeddodd amryw lyfrau heblaw y Testament. Efe gyhoeddodd y llyfr cyntaf a argraphwyd yn yr iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1546, sef math o almanac. (Gwel tudal. 13) Yn y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Eir-lyfr Saesneg a Chymraeg, cyflwynedig trwy genad i'r brenin Harri VIII. "Imprinted at London, in Foster Lane, by me John Waley, 1547." O flaen y Geir-lyfr mae "John Waley, y prenter, yn danfon anerch ar popol Kymry." Dywed Thomas Fuller, yn ei nodiad ar y Geir-lyfr:—