Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y boneddwr hwn (Salesbury) o gariad at ei iaith enedigol, a gyfansoddodd Eir—lyfr Saesneg a Chymraeg byr; yr hwn yn gyntaf, mewn modd anghyhoedd a gyflwynid i, ac a gymeradwywyd gan, y brenin, Harri VIII. (Tudyr, o ochr ei dad, o waed Cymreig), ac yna a argraphwyd yn gyhoeddus yn y flwyddyn 1547. Rhai dynion ymrysongar a ddadleuant yn erbyn defnyddioldeb y gwaith hwn, gan nad oedd ar y Cymry ddim anghen, nac ar y Saeson ddim awydd am lyfr o'r fath. Ond gwybydded y cyfryw ei fod yn fuddiol i'r ddwy genedl; i'r Saeson er mwyn cyrhaedd, i'r Cymry er mwyn cadw, yr iaith hono. Cyrhaedd;—oblegyd, gan ei bod yn iaith gyntefig, nid yw yr hynafiaethydd ond cloff hebddi (yr hyn a wn trwy fy niffyg fy hun) i ddeall yr ychydig allan o lawer o weddillion y genedl hono sydd eto ar gael. Cadw;——gan fod yr iaith hono, fel eraill, trwy ddiffyg arfer yn agored nid yn unig i lygriad, ond ebargofiad, yn ol cyfaddefiad y brodorion eu hunain. Yn wir, y mae pob geir-lyfrau yn dra buddiol, gan fod geiriau yn dwyn pethau i'r tafod; ac fel y dywed Plato, mai enw, neu air, yw offeryn addysgiant, ac y mae yn arwain gwybodaeth i mewn i'r deall. Pa fodd bynag,