Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan nas gellir dechreu a diweddu dim ar unwaith, llyfr Salesbury (fel y cyntaf o'r fath) a gynygiodd ar, ond ni chwblhaodd, y gorchwyl; ac wedi hyny, fe'i gorphenwyd gan eraill."[1]

Mae Strype, yn ei "Annals," yn galw yr awdwr yn "Wyllyam Salesbury of Llanrwst, gent," ac yn dyweyd ei fod yn "bartner" â "John Waley, y prenter," yn y patent am saith mlynedd i argraphu y Bibl Cymraeg.

Llyfrau eraill a ysgrifenwyd gan William Salesbury oeddynt, "Dymchweliad Allor uchel y Pab;" "Arweiniad hawdd ac eglur i'r Iaith Gymraeg," yn nghyd â'r olaf yn Saesneg hefyd, a'r oll yn y flwyddyn 1550. Yn 1551, cyhoeddod "Kynifer Llyth a Ban o'r Ysgrythur ac a ddarllenir yr Eccleis pryd Comun, Sulieu, a'r Gwilieu trwy 'r Vlwyddyn. 0 Gamhereicat William Salesbury, Llundain." Yr oedd hwn yn cynwys cyfieithiad o'r rhanau o'r Efengylau a'r Epistolau ag a arferid yn ngwasanaeth yr Eglwys. Yn yr un flwyddyn hefyd yr ysgrifenwyd "Rhetoreg, neu Egluryn Ffraethineb," gan yr un awdur dysgedig. Gadawyd y gwaith hwn mewn ysgrifen gan Salesbury ar ei ol; ac ar ddymuniad ei gâr,

  1. Fuller's "Worthies,"