Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

John Salesbury, o Leweni, adolygwyd ef, ac ychwanegwyd ato, gan y Parch. H. Perri, B.D. Yr oedd hwn yn draethawd godidog iawn, yr hwn a gyhoeddwyd yn pedwar-plyg yn Llundain. Yr oedd y llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu gan Salesbury cyn cyfieithu y Testament Newydd, lle y gwelir ei fod wrthi yn ddyfal am ugain mlynedd cyn ymddangosiad ei Destament yn cyfoethogi ei genedl â llyfrau o'r mwyaf buddiol. Nid ᎩᎳ amser marwolaeth Salesbury, mwy nag amser ei enedigaeth, yn hysbys. Dywed Syr John Wynn iddo farw yn 1599; ond barna eraill ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1596, os nad cyn 1593, pan gyhoeddwyd "Egluryn Ffraethineb " gan Perri.

Mae Cymru yn rhwymedig iawn i lafur y gŵr enwog hwn, nid yn unig am y rhodd anmhrisiadwy o gael Testament Newydd ein Harglwydd yn brintiedig yn yr iaith Gymraeg, ond hefyd am y dôn neu yr yspryd uchel a chrefyddol a roddodd i'r wasg Gymreig yn y cychwyniad. Cychwynodd y wasg Saesneg gyda llyfrau ysgafn ac anfuddiol, ac y mae ei llenyddiaeth wedi ei llygru gan ffrydiau parhaus o'r cyfryw gymeriad hyd heddyw. Ond yr oedd y llyfrau cyntaf a argraphwyd