yn yr iaith Gymraeg, yn llyfrau buddiol, crefyddol, ac anghenrheidiol. Cynrychwyd blâs at y cyfryw yn ein cenedl, sydd wedi ei gadw hyd heddyw, fel nad oes nemawr lyfr o ddim pris yn ein plith heb fod arogl crefyddol arno.
II. Richard Davies, D.D.
Mab ydoedd Richard Davies i Dafydd ab Gronw, offeiriad Cyffin, ger Conwy, yn Sîr Gaernarfon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1501, mewn lle a elwir Plâs y Person, a derbyniodd ei addysg golegawl yn Rhydychain. Yn y flwyddyn 1550, anrhegwyd ef gan y Brenin Edward VI., â ficeriaeth Burnham, ac â phersoniaeth Maidsmorton, yn Swydd Buckingham. Ond ar esgyniad y Frenines Mari i'r orsedd collodd y cyfan, a gorfu iddo ddianc allan o'r deyrnas, i Geneva. Aeth a'i wraig drosodd gydag ef, a dyoddefodd lawer yno, gan ei fod yn dybynu ar elusen ei gydffoedigion cyfoethocach.
Wedi bod yno yn nhir alltudiaeth am dair blynedd, dysgodd y Ffrangaeg mor dda fel y gallai bregethu ynddi, a chafodd eglwys yno i weinidogaethu ynddi, yr hyn a roddodd iddo gynaliaeth gysurus. Yn Geneva, y ganed