Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tri o'i feibion, sef Thomas, Peregrine, a Jerson. Ar farwolaeth y Frenines Mari, ac esgyniad Elisabeth ei chwaer, dychwelodd i'w wlad, a chafodd y bywioliaethau a gollodd yn ol. Yn Ionawr 1560, dyrchafwyd ef i Esgobaeth Llanelwy. Ni fu ond oddeutu pumtheg mis yn Esgobaeth Llanelwy, oblegyd ar yr 21ain o Fai, 1561, trosglwyddwyd ef i Esgobaeth Tyddewi, yn yr hon esgobaeth y parhaodd am fwy nag ugain mlynedd. Yr oedd wedi ei raddio yn D.D. yn y flwyddyn 1560, a chyfrifid ef yn un o wŷr dysgedicaf ei oes.

Yr oedd Dr. Richard Davies, nid yn unig yn ddyn dysgedig, ond yn Brotestant zelog, ac yn Gristion diledryw ac ymroddedig. Fel y dangoswyd eisoes, yr ydym yn rhwymedig i'w lafur ef, mewn cysylltiad â'i gydymaith Salesbury, am y Testament Newydd cyntaf yn brintiedig yn y Gymraeg. Efe, yn nghyd â Salesbury, gyhoeddodd hefyd, yn yr un flwyddyn a'r Testament, "Y Llyfr Gweddi Gyffredin," at wasanaeth yr eglwysi. Cyhoeddodd bregeth Saesneg hefyd ar farwolaeth Iarll Essex, yr hon a draddodwyd ganddo yn Nghaerfyrddin, yn 1577.

Yn y cyfieithiad newydd o'r Bibl Saesneg, a wnaed trwy orchymyn y Frenines Elisa-