Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beth, yr hwn a adwaenir yn gyffredin wrth yr enw "Bibl Parker," a gyhoeddwyd yn 1568, rhoddwyd gofal llyfrau Joshua, Ruth, a'r ddau Samuel i'w hadolygu a'u eydmaru â'r gwreiddiol i Dr. Davies.

Mae y llythyr maith a rhagorol a gyhoeddodd yn nglŷn â Thestament Salesbury, yn ddigon o brawf ei fod yn Brotestant cadarn, yn dduwinydd da, yn wladgarwr calonog, yn hanesydd craffus, ac yn efengylaidd ei olygiadau. Geilw y Cymry yn serchog a difrifol i ddeffroi o'u cwsg, ac i dderbyn a gwerthfawrogi y rhodd ardderchog oedd yn awr yn cael ei chynyg iddynt. Dwg ar gof iddynt y modd y cadwodd yr hen Gymry yr Efengyl yn ddilwgr yn eu gwlad, dros amryw oesoedd, a'r erledigaethau a ddyoddefasant o'r herwydd. Dengys pa fodd y cawsant o'r diwedd eu llygru gan Babyddiaeth, a'r modd y cafodd eu llyfrau eu dinystrio, nes i'w holl lenyddiaeth, o'r braidd, gael ei dyfetha. Mae yn mawrygu y fendith oedd wedi dyfod gyda'r gelfyddyd newydd o argraphu, ond yn cwyno fod y Cymry wedi elwa. mor lleied arni; ond yn awr, yr oedd y Testament Newydd yn dyfod allan iddynt yn eu hiaith eu hunain, a hyderai na fyddent yn hir cyn cael yr holl Fibl yn gyflawn i'w dwylaw.