Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dylasem hysbysu fod yr Esgob Davies yn fardd o radd uchel hefyd, a bod amryw o'i gyfansoddiadau ar gôf a chadw.

Pan symudwyd yr Esgob o Lanelwy i Dyddewi, dywed Syr John Wynn, "iddo lywyddu yno yn deilwng o hono ei hunan, ac er anrhydedd i'n cenedl, gan amlygu ei hoffder trwyadl o'r Gogleddwyr, y rhai a gyfleai efe yn lliosog mewn bywioliaethau Eglwysig yn ei esgobaeth, a'i hoff ddywediad canlynol yn wastad yn ei enau,-" Myn y firi faglog, myfi a'ch planaf chwi, y Gogleddwyr, tyfwch os mynwch." Efe a gadwai dŷ rhagorol, gan gadw yn ei wasanaeth y brodyr ieuangaf o'r tai goreu yn y wlad hono, i'r rhai y rhoddai gynhaliaeth ac addysg dda, gyda 'i blant ei hun." Achwynir arno iddo dlodi yr esgobaeth yn fawr, tuagat arlwyo i'w deulu lliosog, trwy brydlesu y tiroedd, a gadael y tai i fyned yn adfeilion.

Bu farw Tachwedd 7fed, 1581, yn y llys esgobol yn Abergwili, yn 80ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn yr eglwys. Wrth ailadeiladu eglwys Abergwili yn 1850, daethpwyd ar draws bedd yr esgob. Nid oedd ar ei feddrod ond llechfaen gyffredin y wlad, a'i enw ef arni, a dim ond ei enw, yn nghyd â'r flwyddyn y bu