farw, 1581. Canfyddwyd arch yn y ac ysgrifen yn rhedeg ar hyd ei hymylau; a darllenwyd enw yr esgob ar yr arch. Rhoddodd Dr. Thirlwall, Esgob Tyddewi, wyddfaen mynor, ar ei draul ei hun, ar fûr y ganghell uwch ben ei fedd, ac ar y mynor y mae a ganlyn yn argraphedig:
Er Coffadwriaeth am
Y GWIR BARCHEDIG DAD YN Nuw,
YR ESGOB RICHARD DAVIES, D.D.
Ganwyd ef yn mhlwyf Gyffin, ger Aber Conwy, yn
Ngwynedd;
DYGWYD EF I FYNY YN NEW INN HALL, RHYDYCHAIN;
Codwyd ef i ESGOBAETH LLANELWY, Ionawr 21ain, 1559,
AC I'R ESGOBAETH HON (TY DDEWI) MAI 29AIN 1561.
BU FARW TACHWEDD 7FED, YN Y FL. 1581,
Oddeutu LXXX. oed;
AC A GLADDWYD YN YR EGLWYS HON.
Efe a gyfieithodd JOSUA, BARNWYR, RUTH, 1 SAMUEL,
a'r 2 SAMUEL yn y BIBL SAESONEG,
Pan ddiwygiwyd yr hen gyfieithiadau o dan arolygiad
Yr ARCHESGOB PARKER yn y fl. 1668;
Ac efe hefyd a gyfieithodd
1 TIMOTHEUS, YR HEBREAID, IAGO, 1 PETR, A'R 2 PETR,
YN Y TESTAMENT NEWYDD CYMRAEG
A gyhoeddwyd a chan mwyaf a gyfieithwyd
gan WILLIAM SALESBURY, o'r Plâs Isaf, ger Llanrwst
yn y fl. 1567.
ESGOB oedd ef o ddysg bur—a duwiol
A diwyd mewn llafur;
Gwelir byth tra 'r Ysgrythur,
Ol gwir o'i ofal a'i gur.—Tegid.