III. Thomas Huet
Nid oes genym nemawr o hanes y gŵr da hwn, ond bydd ei enw mewn coffadwriaeth felus gan y Cymry fel cyfieithydd llyfr y Datguddiad yn Nhestament Cymraeg William Salesbury. Mae llythyrenau cyntaf ei enw wrth y cyfieithiad, sef "T. H.; C. M." Hyny yw, Thomas Huet, Cantor Mynyw, neu Cantor Meniva. Yr oedd yn brif gantor Tyddewi o'r flwyddyn 1562 hyd 1588, ac offeiriad Cefnllys, yn Sir Frycheiniog, a Diserth yn Sîr Faesyfed. Bu farw Awst 19eg, 1591, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanafan, Brycheiniog.
IV. Dr. William Morgan.
Dyma y gŵr da ag y mae Cymru yn ddyledus iddo am ddwyn yr holl Fibl allan yn yr iaith Gymraeg. Cyfieithodd ef a'i gynorthwy wyr yr oll o'r Hen Destament a'r Apocrypha, a diwygiodd Destament Newydd William Salesbury; a chymerodd y gorchwyl iddo lawn deng mlynedd o amser.
Mab ydoedd i William, neu John, Morgan, o Ewybrnant, plwyf Penmachno, Sir Gaernarfon; a'i fam oedd Lowri, ferch William ab Ifan