ab Madog ab Ifan Tegin, o'r Betws. Nid oes dim o'i hanes boreuol ar gael. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn ngholeg St. Ioan, yn Mhrifysgol Caergrawnt. Yr oedd yn dysgu yn gyflym, a chymerodd bedwar o deitlau yn olynol yn y Brif-ysgol; sef B.A. yn 1568; A.M. yn 1571; B.D. yn 1578; a D.D. yn 1583. Cafodd Ficeriaeth Trallwng, Sîr Drefaldwyn, yn Awst 1575, a bernir mai hwn oedd ei bennodiad cyntaf. Wedi bod yno am dair blynedd symudodd i Llanrhaiadr-yn-Mochnant, Sir Ddinbych, lle y dechreuodd yn ebrwydd ar ei waith clodfawr o gyfieithu y Bibl.
Wedi gorphen ar y gwaith, bu am tua blwyddyn yn Llundain yn arolygu ei argraphiad, ac yn y cyfamser, yn cael llety croesawgar gan Dr. Gabriel Goodman, Deon Westminster, yr hwn y mae yn ei gydnabod yn gynhes yn nghyflwyniad y gwaith. Yn y flwyddyn y gorphenodd ei Fibl, gwobrwywyd ef â phersoniaethau Llanfyllin, a PennantMelangell; ac yn 1594, ychwanegwyd iddo bersoniaeth Dinbych. Yn 1595, yn dra haeddianol, ac ar orchymyn pennodol y Frenines Elisabeth, rhoddwyd iddo gadair esgobol Llandâf; ac yn 1601, cafodd Esgobaeth Llanelwy, lle bu farw Medi 10fed, 1604, ac y