Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

claddwyd ef yn ei brif eglwys heb gymaint a gwyddfaen i ddangos ei fedd. Dywed Syr John Wynn o Wydir ei fod yn ysgolorcampus yn yr ieithoedd Groeg a Hebraeg," ac iddo "farw yn ddyn tlawd." Os haeddodd unrhyw Gymro gof-golofn i gadw ei enw yn barhaus o flaen llygaid ei gydwladwyr, fe haeddodd Dr. William Morgan hi. Nid yw Cymru mor ddyledus i neb un o'i beirdd, ei cherddorion, ei gwleidiadwyr, a'i rhyfelwyr ag ydyw i William Salesbury, Richard Davies, William Morgan, John Davies, a Richard Parry, cyfieithwyr y Gyfrol ddwyfol i'r heniaith Gymraeg. Bendigedig fyddo eu coffadwriaeth. Priodol iawn y canodd Sion Tudur i Dr. Morgan:

Cei glod o fyfyrdod fawr,
A da dylych hyd elawr,
Tra gwnair tai, tra caner tant,
Tra fo Cymro 'n cau amrant."

V. Dr. Richard Parry.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Richard Parry (esgob)
ar Wicipedia

Mab hynaf oedd ef, ac etifedd, John Parry, o Bwllhaulog, yn Rhuthin, Sir Ddinbych, a ganed ef yno, yn ol "Cymru," gan y Parch. O. Jones, yn 1560. Dywed "Llyfryddiaeth