Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Cymry" mai oddeutu y flwyddyn 1578-deunaw mlynedd yn ddiweddarach-y ganed ef, ac iddo farw yn 1623, yn 45ain oed. Ofnwn fod yr olaf yn gamsyniol, oblegyd felly buasai wedi ei wneyd yn esgob pan nad oedd ond 26ain oed. Bu am dymor dan addysg yn ysgol Westminster, o dan yr enwog W. Camden, un o ysgoleigion penaf ei oes, ac awdwr hanesiaeth Brydeinig a elwir "Britannia." "Britannia." Oddiyno aeth yn o ieuanc i Rhydychain. Dywed amryw o'r haneswyr iddo fod am dymhor yn brif-athraw yn ysgol Rhuthin; mae eraill yn barnu mai is-athraw a fu yno.

Yn y flwyddyn 1592, gwnaed ef yn Ganghellydd Bangor, a derbyniodd, yn yr un flwyddyn, ficeriaeth Gresford. Yn 1598 cafodd ei D.D., a'r flwyddyn ganlynol cafodd Ddeoniaeth Bangor. Ar esgyniad y Brenin Iago I. i orsedd Lloegr, yr oedd ganddo feddwl mor uchel o'i ddysgeidiaeth, fel y dyrchafodd ef i Esgobaeth Bangor, yn Rhagfyr 1604.

Ymgymerodd â'r gorchwyl o ddiwygio cyfieithiad yr holl Fibl, oddiar ei awyddfryd personol i wneyd y cyfryw wasanaeth i'w genedl, heb unrhyw gymhelliad at hyny gan neb oddiallan. Mae rhai yn groes i'w osod ef yn mysg cyfieithwyr yr Ysgrythyrau, gan na