Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wnaeth ond diwygio cyfieithiadau oeddent o'r blaen wedi eu gorphen. Tybia eraill fod yr hyn a wnaeth mor fawr a phwysig, fel y gellid ei alw yn gyfieithiad newydd. Mae yn amlwg fod anghen diwygiad ar y Bibl, fel y gadawyd ef gan Dr. Morgan; ac y mae mor sicr a hyny fod Dr. Parry yn gwbl gyfaddas at y gorchwyl. Yr oedd orgraph Salesbury yn ddrwg, yr iaith yn anystwyth, a phur anneallus. Gwellhaodd Dr. Morgan lawer iawn ar yr iaith; ond rhoddodd Dr. Parry ef i ni mewn iaith ag sydd yn safon y Gymraeg hyd y dydd hwn. Gwnaeth wasanaeth i genedl y Cymry, fydd yn glod anfarwol i'w enw.

Yr oedd yn dal bywioliaeth Diserth yn Sir Fflint, gyda'i esgobaeth, a byddai yn treulio peth amser yno ar adegau. Mae yno faes o'r enw "Cae yr Esgob;" ac yn y persondy hwnw y bu farw yn 1623,—yn mhen oddeutu dwy flynedd ar ol cyhoeddi y Bibl, a dwy flynedd o flaen y brenin.

VI. Dr. John Davies.

Adwaenir y gŵr da hwn wrth yr enw Dr. Davies o Fallwyd. Mab ydoedd i Dafydd ab Sion ab Rhys, gwehydd wrth ei alwedigaeth