Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mhlwyf Llanferras, yn Sir Ddinbych. Nid yw ei fod yn yr alwedigaeth hono yn brawf fod ei amgylchiadau yn isel, am fod gwehyddiaeth y pryd hwnw mewn bri uwch nag ydyw yn bresenol. Ganed ef tua'r flwyddyn 1570. Dywed y "Cambrian Plutarch" iddo dderbyn ei addysg foreuol yn ysgol Rhuthin, oedd wedi ei sefydlu ychydig flynyddoedd cyn hyny gan Dr. Gabriel Goodman, ac mai ei athraw yno oedd Dr. Richard Parry, a ddaeth wedi hyny yn Esgob Llanelwy. Ond dywed Enwogion Cymru," nas gallasai fod yno yn yr ysgol Ramadegol enwog a sefydlwyd gan Deon Goodman, gan na sefydlwyd hono hyd 1595, tra yr oedd Dr. Davies wedi derbyn ei raddau yn Rhydychain, a dychwelyd yn ol i'w wlad yn 1592; ac mai camsyniad yw dyweyd mai Dr. Parry oedd athraw Davies yn yr ysgol hono. Tybia y gallasai fod Parry wedi gosod i fyny ysgol anghyhoedd yn ei dref enedigol, ac mai yn hono y bu Dr. Davies dan ei addysg. Beth bynag, y mae yn sicr fod cyfeillgarwch calon wedi ei enyn rhwng Parry a Davies yn yr adeg hon, na ddiffoddodd tra parhaodd y ddwy galon i guro.

Yn y flwyddyn 1589 y dechreuodd Dr. Davies ar ei fywyd athrofaol, yn Ngholeg yr