Iesu, Rhydychain. Wedi bod yno bedair blynedd, ac ennill clôd fel ysgolaig, a chael ei raddio yn B.A., yn 1593, dychwelodd i Gymru, ac ymroddodd i astudio iaith, duwinyddiaeth, a hynafiaethau ei wlad. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd ei urddau eglwysig, ond ni chafodd unrhyw ddyrchafiad swyddol am ddeng mlynedd. Yn 1604, ychydig cyn dyrchafiad Parry i Esgobaeth Llanelwy, cafodd Davies Bersoniaeth Mallwyd, yn Sîr Feirionydd, gan y Goron.
Yn y flwyddyn 1608 dychwelodd i Goleg Lincoln, yn Rhydychain, ond nis gellir dyweyd pa faint fu ei arosiad yno y tro hwn. Ar ol hyn, cafodd amryw ffafrau oddiar law yr esgob. Gwnaed ef yn Ganon Llanelwy yn y flwyddyn 1612, a'r blynyddau dilynol cafodd fywioliaethau Llanymawddwy, a Darowain, Llanfair a Llanefydd, yr hyn a wnaeth ei amgylchiadau yn bur gysurus. Felly y dengys cywydd Robert ab Heilyn iddo :— Mae iti renti drwy râs,
Mab dewrddoeth, mwy bo d'urddas,
Mallwyd sydd am wellhâd sant,
A Mowddwy yn eich meddiant,
A Llanfair blaenfaur heb ludd,
Llawn afael, a Llan—Nefydd."
Cafodd ei D.D. o Goleg Lincoln yn 1616,