Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu S.T.D., fel y byddid yn ei roddi y prydhwnw. Y mae yn sicr iddo fod yn gynorthwy pwysig iawn i'r Esgob Parry i ddwyn y Bibl allan. Heblaw y llafur hwn, cyfoethogwyd llenyddiaeth Gymreig â llawer o lyfrau gwerthfawr o eiddo Dr. Davies. Yn 1621 cyhoeddodd Ramadeg o'r iaith Gymraeg yn Lladin. Yn 1632, cyhoeddodd ei "Eiriadur" enwog, yr hwn, yn ddiau, a fu yn brif orchest ei fywyd. Yr oedd un Thomas ab William, neu Syr Thomas William, o Drefriw, wedi gadael ar ei ol, mewn llaw-ysgrifen, Eirlyfr Lladin a Chymraeg. Ymgymerodd Dr. Davies â gwella a helaethu hwnw, a chyfansoddi Geirlyfr Cymraeg a Lladin ato. A dyma y Geirlyfr y treuliodd Dr. Davies oriau hamddenol deugain mlynedd o'i fywyd i'w gwblhau.

Heblaw amryw lyfrau eraill a gyhoeddodd, cyfieithodd i'r Gymraeg y "Namyn-un-deugain Erthyglau," gyda "Phenderfyniadau Cristionogol" Parsons. Casglodd drysorau lawer hefyd mewn barddoniaeth a hanesiaeth Gymraeg. Gadawodd ar ei ol gyfrol drwchus o tuag 800 o dudalenau mewn ysgrifen fân brydferth, yn cynwys Awdlau, Cywyddau, Caniadau, Pryddestau, &c., y rhan fwyaf wedi eu copio o'r Llyfr Coch o Hergest," a rhai