Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r "Llyfr Du," a llyfrau eraill. Wrth ddarllen llyfrau, byddai yn gwneyd nodiadau ar ymyl y dail. Ar ol ei farwolaeth, casglodd James Davies (Iago ab Dewi) o Bencadair, y nodiadau hyn, a chyhoeddodd hwynt yn llyfr.

Yr oedd yn ddyn dymunol a chariadus iawn yn mysg ei gymydogion. Cododd bont gerllaw Pont—y—Cleifion, ar ei draul ei hun. Ail adeiladodd hefyd y clochdy a changhell yr eglwys, a'r periglordy, ar ei draul ei hun; a gadawodd ardreth lle a elwir "Dol—ddyfi," i dlodion y plwyf tra fyddo dwfr yn rhedeg.

Yr oedd wedi priodi merch Rhys Wynn, Ysw, o Llwynon, chwaer gwraig yr Esgob Parry; a chan nad oedd plant ganddo, gadawodd ei feddianau i'w neiaint. Bu farw yn Mallwyd ar y 15fed o Fai, 1644, yn 74ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn nghangell Eglwys Mallwyd. Cerfiwyd yr argraph canlynol yn Lladin ar ei gareg fedd, ond y mae erbyn hyn wedi treulio ymaith.

"John Davies, Dysgawdwr Duwinyddiaeth Gysegredig, Periglor Eglwys Blwyfol Mallwyd, a fu farw y 15fed dydd o Fai, ac a gladdwyd ar y 19eg, B.A. 1644. Mwy er coffa ei rinwedd na'i enw."

Yr oedd Dr. Davies, nid yn unig yn rhês