Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaenaf ysgoleigion ei oes, ond yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diflino a dihunangar yn ei lafur, a gadawodd ar ei ol drysorau anmhrisiadwy at wasanaeth y genedl.

VII. Edmund Prys.

Mae Dr. Morgan yn coffau amryw gynorthwywyr eraill iddo yn nghyfieithiad y Bibl; megys, Dr. Dafydd Powell, Ficer Rhiwabon, Richard Fychan, o Lutterworth, ac Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd.

DAFYDD POWELL, mab ydoedd ef i Hywel ab Dafydd ab Gruffydd ab Ithel. Ganed ef yn 1552. Addysgwyd ef yn Rhydychain. Cafodd ei B.A. yn 1572, ei M.A. yn 1576, ei B.D. yn 1582, a'i D.D. yn 1583. Yr oedd ganddo amryw swyddogaethau heblaw Ficeriaeth Rhiwabon. Yr oedd yn ddyn dysgedig iawn, ac yn llenor galluog a diwyd. Dygodd lawer o lyfrau pwysig allan, a gadawodd lawer o ysgrifau gwerthfawr ar ei ol, y rhai, yn anffodus a aethant ar ddifancoll. RICHARD VAUGHAN neu FYCHAN, D.D., oedd enedigol o Nyffryn, lle rhwng Tydweiliog ac Edeyrn, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Cafodd ef ei addysgu yn Nghaergrawnt. Yr oedd yn berson Lut-