Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

terworth ar yr adeg y bu yn cynorthwyo Dr. Morgan yn nghyfieithiad y Bibl. oedd hefyd yn Archddiacon Middlesex, a chanddo ganoniaeth yn eglwys gadeiriol Wells. Gwnaed ef yn esgob Bangor yn 1595; yn mhen dwy flynedd symudodd i Gaerlleon, ac oddiyno i Lundain, lle y bu farw yn y flwyddyn 1607.

Ond y mae EDMUND PRYS yn haeddu coffâd, nid yn unig am iddo gynorthwyo Dr. Morgan gyda chyfieithu, ond yn benaf fel awdwr y "Salmau Cân." Yr oedd y Cadben W. Middleton (Gwilym Ganoldref) tua'r un amser a'r Archddiacon yn troi Salmau Dafydd i fesurau caethion y Gymraeg, ond dan amgylchiadau. pur wahanol. Yr oedd y Cadben allan ar gefn y Weilgi, neu mewn gwledydd tramor, yn ngwasanaeth ei frenines, yn nghanol bloddest y fyddin, a mwg a thân brwydrau poethion â'r Spaeniaid; a rhyfedd iawn oedd gweled dyn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio Salmau peraidd ganiedydd Israel, ac yn cyflawni y gorchwyl tra anhawdd o'u troi i linellau cynghaneddol y pedwar mesur ar ugain. Yr oedd ffaith yn ddiau yn un o ryfeddodau yr oes. Pa bryd bynag y dechreuodd ar y gorchwyl, tystia â'i ysgrifen ei hun yn nglŷn â'r Salm