Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olaf iddo ei orphen y 24ain o Ionawr 1595, mewn ynys yn India y Gorllewin.

Ond yr oedd amgylchiadau yr Archddiacon yn wahanol iawn yn ardal dawel guddiedig Maentwrog, y mesur a gymerodd yn fwy hawdd a syml, a'r amcan yn rhagorach. Ganed ef -yn Maentwrog oddeutu 1541. Cafodd ei addysgiad yn Nghaergrawnt, lle y cafodd ei raddio yn A. C. Wedi derbyn ei urddau Eglwysig ymsefydlodd yn Ffestiniog, ac yn y flwyddyn 1576, pennodwyd ef yn Archddiacon Meirionydd. Yr oedd yn ieithwr enwog, ac yn feistrolgar mewn wyth o ieithoedd. Yr

oedd hefyd yn fardd o fri uchel, ac y mae ugeiniau o'i gywyddau yn awr ar gael. Ond ei brif waith oedd troi llyfr y Salmau ar fesur mydryddol, at wasanaeth yr Addoliad Dwyfol. Mae wedi glynu wrth yr un mesur, bron yn gwbl, yr hwn a adnabyddir oddiwrth waith Prys wrth yr enw "Mesur Salm." Mae nifer mawr o'i benillion yn fedrus a llithrig, ac yn profi ei fod yn gyfarwydd â hwy yn yr iaith wreiddiol; ond y mae llawer eraill yn glogyrnaidd, gan ei ymdrech i gadw yn rhy lythyrenol at y testyn. Dywedir iddo eu cyfieithu fel hyn o wythnos i wythnos, at wasanaeth ei eglwys ei hun, ac iddynt gael eu