Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canu oll yno cyn eu cyhoeddi. Ond ystyried yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, y mae yr iaith, a'r mydr, yn sicr, yn deilwng o ganmoliaeth uchel.

Yr oedd yr archddiacon yn hanu, o ran ei dad a'i fam a'i wraig, o waedoliaeth Cymreig anrhydeddus. Mae y rhan fwyaf o'i gywyddau yn rhyw ymgom gecrus rhyngddo ef a bardd arall o'r enw William Cynwal, ac yn annheilwng o ŵr dysgedig, a swyddog mor uchel yn yr Eglwys. Cododd deulu mawr; bu farw yn 1624, yn dair blwydd a phedwar, ugain oed, a chladdwyd ef yn mynwent Maentwrog; ond nis gŵyr neb am ei fedd. Ei arwyddair ydoedd "Mor anwyl yw Meirionydd."

VIII. Rees Pritchard.

Yr ydym wedi beiddio rhoddi enw y Parch. Rees Pritchard, "Hen Ficer duwiol Llanddyfri," yn mysg cyfieithwyr y Bibl, er na chyfieithodd ef, yn ystyr gyffredin y gair, yr un gyfran o hono. Yr oedd, er hyny, yn cydoesi, mwy neu lai, â'r oll o'r cyfieithwyr, gan iddo gael ei eni tua'r flwyddyn 1579, ei ordeinio yn 1602, a bod dyddiad ei "Ewyllys," yr hon a wnaed pan oedd yn glaf o gorph," yn