1644. Nis gwyddom pa hyd y bu byw ar ol gwneyd ei Ewyllys. Er na chymerodd ran yn nghyfieithiad y Bibl, gwnaeth gymaint a neb o honynt i daenu gwirioneddau y Bibl yn mysg y werin Gymreig, trwy offerynoliaeth "Canwyll y Cymry." Tân y Bibl oedd yn cyneu ei ganwyll, a daliodd i lewyrchu yn ddysglaer yn nghanol tywyllwch dudew y wlad. Yn wir, ar un olwg, yr oedd ei lyfr yn gyfieithiad o'r Ysgrythyrau cyfieithiad o Gymraeg trwsgl, dwfn, ac anneallus William Salesbury, a Dr. Morgan, i Gymraeg mwy deallus a sathredig y werin. Yn ei linellau "At y Darllenydd," dywed:—
"Am wel'd dwfn-waith enwog Salsbury,
Gan y diddysg heb ei hoffi,
Cym'rais fesur byrr cyn blaened,
Hawdd i'w ddysgu, hawdd i'w 'styried."
Mae ei lyfr yn cynwys crynodeb gwerthfawr o athrawiaeth y Gair Dwyfol, mewn ffurf syml a sathredig i daro meddwl y werin yn yr oes yr oedd yn byw ynddi; ac hefyd yn ddesgrifiad byw a gonest o gyflwr anwybodus a llygredig y wlad, yn gystal offeiriad a phobl. Dyfynwn yma ychydig o benillion allan o'i "Gynghor i Wrando a Darllain"