Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gair Duw," yr hwn sydd yn cynwys 87 o benillion cyffelyb. Mae yn beth tebygol i'r Cynghor" gael ei gyfansoddi ar ol cyhoeddiad y Bibl wyth-plyg rhad yn 1630, gan ei fod yn cyfeirio fwy nag unwaith at ei bris, sef "coron arian."

Bwyd i'r enaid, bara 'r bywyd,
Gras i'r corph, a maeth i'r yspryd,
Lamp i'r droed, a ffrwyn i'r genau,
Yw Gair Duw, a'r holl 'Sgrythyrau.

Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
Gwerth dy grys oddiam dy gefn,
Gwerth y cwbl oll sydd genyd,
Cyn b'ech byw heb Air y bywyd.

Tost yw aros mewn cornelyn,
Lle na oleuo 'r haul trwy'r flwyddyn;
Tostach trigo yn y cwarter
Lle na oleuo 'r Gair un amser.

Gad y wlad, y plwyf a'r pentre',
Gad dy dad a'th,fam a'th drase',
Gad tai a'r tir yn ebrwydd,
Lle na byddo Gair yr Arglwydd.

Mae'r Bibl bach yn awr yn gyson,
Yn iaith dy fam i'w gael er coron;
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnw,
Mae 'n well na thref dy dad i'th gadw.

Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr a'r crochan,
Gwell dodrefnyn yn dy lety
Yw 'r Bibl bach na dim a feddi.