PENNOD IX.
LLEDAENWYR Y BIBL YN MYSG Y CYMRY.
HEBLAW yr hyn a ddywedwyd eisoes am ymdrechion y cymwynaswyr rhagorol hyn i gyflenwi anghenion Cymru â'r Ysgrythyrau Sanctaidd, yr ydym yn rhoddi y bennod hon. i gofnodi eu henwau. Nis gallwn ond rhoddi nodiad byr iawn ar bob un o honynt, ac y mae yn bosibl ein bod yn gadael rhai allan ddylasai gael eu rhifo yn eu mysg.
I. Rowland Heilyn.
Brodor ydoedd y gŵr hwn o Sîr Drefaldwyn, ac un o'r teulu o'r un enw o Bentreheilyn, yn mhlwyf Llandysilio. Ymsefydlodd yn Llundain, a daeth yn henadur a sirydd yn y ddinas. Yr oedd yn Gymro cenedlgarol, ac yn llenor galluog. Gosododd ei genedl dan rwymedigaeth arbenig iddo, yr hyn a geidw ei enw yn anwyl yn nheimlad pob Cymro, trwy fod yn brif offeryn i ddwyn argraphiad o'r Bibl allan, mewn plyg llai, ac ar bris isel, at wasanaeth y werin, yn y flwyddyn 1630. Er y cynorthwyid ef gan