Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eraill, dygai y rhan fwyaf o'r baich ei hun; a diammheu nad baich bychan oedd hwnw. Efe hefyd a gyhoeddodd yr "Arferiad o Dduwioldeb," yn Gymraeg, yn nghyd a Geiriadur at wasanaeth ei gydwladwyr. Bu farw yn 1634, heb adael etifedd ar ei ol, ac aeth ei eiddo, trwy briodas merch iddo, i deulu o'r enw Congreve. Yr oedd yn ewythr i Dr. Peter Heylin yr hanesydd.

II. Thomas Middleton.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Myddelton
ar Wicipedia

Un o deulu enwog Gwaenynog, Sir Ddinbych, ydoedd Syr Thomas Middleton; mab Richard Middleton, llywodraethwr Castell Dinbych o dan deyrnasiad Edward VI., Mari, ac Elisabeth. Normaniaid oeddent o wreiddyn, ond trwy briodasau olynol, daethant yn Gymry o waed, ac o yspryd. Brodyr i Syr Thomas oedd William Middleton (Gwilym Ganoldref), awdwr y "Salmau Cân," Ffowc Middleton, a Syr Hugh Middleton. Aeth Syr Thomas i Lundain yn ieuanc, a daeth yno yn farsiandwr cyfoethog. Daeth yn henuriad, yn ynad, ac, yn 1614, yn Arglwydd Faer Llundain. Prynodd etifeddiaeth Castell y Waun, Sir Ddinbych, ac efe oedd cyff teulu Middleton y lle hwnw. Efe,